Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022
Amser:
09.01 -
09.14
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru Ryan Price, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Jane Dodds a Darren Millar eu hymddiheuriadau. Roedd Russell George yn bresennol yn y cyfarfod fel dirprwy.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd egwyl fer cyn dechrau trafodion Cyfnod 3, gyda’r gloch yn canu 5 munud cyn ailddechrau.
Dydd Mercher
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod dehongliad Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei drefnu ar gyfer dadl Mark Isherwood ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau, gyda'r bwriad y gellir darparu hwn yn fyw ar Senedd.tv.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 13 Rhagfyr
· Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau Taladwy) (Cymru) 2022 (5 munud)
Dydd Mawrth 10 Ionawr
· Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru - cynhyrchu isotopau radio meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau a ganlyn i'r amserlen:
Dydd Mercher 18 Ionawr 2023 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch Cyfnod 4 Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Yn dilyn yr arwydd a roddwyd yn y cyfarfod blaenorol, nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a’r bwriad i gynnal dadl Cyfnod 4 ar Fil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn syth ar ôl trafodion Cyfnod 3 heddiw.
4.2 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau’r Toriadau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2023.
5.2 Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Nadolig, gan gynnwys ar gyfer busnes y Cyfarfod Llawn am wythnos gyntaf y tymor, Cwestiynau Ysgrifenedig a gwelliannau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru). Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig.
6 Diwygio’r Senedd
6.1 Trafod yr adroddiad drafft ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno, ac iddo gael ei osod a’i ddarparu i Lywodraeth Cymru cyn diwedd y tymor, yn amodol ar ddau ychwanegiad: nodi barn Siân Gwenllian y dylai deddfwriaeth Diwygio’r Senedd gynnwys y teitlau Cymraeg ‘Llywydd’ a 'Dirprwy Lywydd' yn unig; a, nodi barn y Llywydd y dylid pennu uchafswm cynyddol o Weinidogion Cymru yn 16.